Profiad Academaidd ac Ymarferol
Mae ein tîm yn cynnwys economegwyr ac ymgynghorwyr polisi blaenllaw o Gymru ac Ewrop. Mae gan bob un o’n staff uwch raddau ôl-raddedig mewn economeg ac mae ganddynt doreth o brofiad academaidd ac ymarferol.
Mae’r staff yn aelodau o nifer o wahanol sefydliadau proffesiynol ac eraill yn cynnwys Cymdeithas Werthuso’r DU, Cymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol, Sefydliad Materion Cymreig, Cymdeithas Economaidd Frenhinol a Chymdeithas yr Economegwyr Busnes.
Ymwybyddiaeth Polisi
Mae llawer o’n hymgynghorwyr uwch wedi gweithio o’r blaen yn adrannau’r Llywodraeth (yn y DU, Iwerddon a Chanada) ac felly maent yn deall yn fanwl y broses o ddatblygu polisi ac yn dringar ynghylch ffactorau gwleidyddol.
Yn ogystal, mae nifer o aelodau’r staff wedi eu trosglwyddo am gyfnodau gyda sefydliadau eraill yn cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, Comisiwn Cystadleuaeth y DU a Masnach & Buddsoddiad y DU.
Sgiliau Ymchwil
Rydym yn gallu defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dadansoddi ansoddol a meintiol i gynorthwyo gyda’n gwaith, yn cynnwys: - dadansoddi cost a budd;
- dadansoddi meini prawf lluosog;
- efelychu polisi;
- adeiladu senario;
- dadansoddi ystadegol; a
- modelu mathemategol ac ariannol.
Mae gennym brofiad hefyd o ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau casglu data meintiol ac ansoddol, yn cynnwys: - adolygiadau trylwyr o lenyddiaeth a thystiolaeth;
- asesiadau chwim o dystiolaeth;
- holiaduron arolwg;
- cyfweliadau;
- gweithdai; a
- grwpiau ffocws.
Rydym yn gyfarwydd iawn â’r prif ffynonellau ystadegol swyddogol yng Nghymru, y DU ac Ewrop ac yn gweithio’n aml gyda chwmnïau ymchwil farchnad arbenigol.
Ieithoedd
Mae gennym sgiliau ieithyddol helaeth wrth law yn ein tîm, sy’n gallu bod yn arbennig o fuddiol wrth adolygu tystiolaeth a phrofiad gwledydd eraill. Mae’r sgiliau ieithyddol sydd ar gael yn y tîm yn cynnwys Cymraeg, Saesneg, Gwyddeleg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Daneg.