Mae LE Wales yn gwmni ymgynghori ynghylch economeg a pholisi ac mae’n adran o London Economics. Mae ein chwaer gwmni Indecon yn cynnig gwasanaethau tebyg yn Iwerddon.
Mae gan y Grŵp Ymgynghori Indecon - London Economics swyddfeydd yn Llundain, Dulyn, Caerdydd a Brwsel, a swyddfeydd cysylltiedig ym Mudapest, Paris a Valetta.
Mae’r ymgynghorwyr yn ein gwahanol swyddfeydd yn cydweithio’n glos ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt brofiad o weithio ar draws y grŵp. Mae hyn yn golygu bod gennym amrywiaeth eang iawn o brofiad a sgiliau wrth gefn i’w defnyddio.
Rydym yn cynghori cleientiaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ynghylch dadansoddi economaidd ac ariannol, datblygu a gwerthuso polisi, strategaeth busnes, a pholisi rheoleiddiol a chystadleuaeth.