Datblygu Polisi
Datblygu Polisi
Mae gennym allu cadarn ym maes datblygu polisi cyhoeddus, gyda phrofiad wrth gefn gan ein staff a oedd yn arfer bod yn weision sifil uwch, a’n gwybodaeth arbenigol o ran dulliau modelu ac arfarnu. Mae gennym wybodaeth arbenigol o ran:
• dadansoddi a llunio polisïau a rheoliadau;
• y rhagarfarniad o bolisïau a phrosiectau;
• asesiadau o effaith reoleiddiol.
Mae ein dull o ymdrin ag arfarnu wedi ei lunio’n arbennig ar gyfer anghenion penodol cleientiaid ac mae’n gyson bob amser â phrif ddogfennau cyfarwyddyd fel Llyfr Gwyrdd y Trysorlys.