{"id":68,"date":"2013-11-27T10:27:02","date_gmt":"2013-11-27T10:27:02","guid":{"rendered":"https:\/\/le.wibblehosting.com\/lewales\/?page_id=68"},"modified":"2022-09-21T11:56:57","modified_gmt":"2022-09-21T11:56:57","slug":"ein-profiad","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/le-wales.co.uk\/ein-profiad\/?lang=cy","title":{"rendered":"Amdanom ni"},"content":{"rendered":"
Mae LE Wales yn ymgynghoriaeth sy’n darparu cyngor economaidd a pholisi i gleientiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae’n enw masnach London Economics Limited. Mae ein hymgynghorwyr yn cynnig ystod gynhwysfawr o sgiliau, gan gwmpasu pob agwedd ar ddadansoddi economaidd ac ariannol a datblygu polisi.<\/p>\n
Rydym yn darparu gwasanaethau yn y meysydd canlynol:<\/p>\n
Mae ein t\u00eem yn cynnwys economegwyr medrus, sy’n elwa o gefndiroedd deallusol trwyadl. Mae gan bob un o\u2019n huwch ymgynghorwyr economaidd raddau \u00f4l-raddedig mewn economeg o brifysgolion blaenllaw, ac mae ganddynt gyfoeth o brofiad academaidd ac ymarferol. Mae LE Wales yn gallu cyfuno trylwyredd academaidd a rheolaeth contract arbenigol i roi cymorth priodol i’n cleientiaid i ddiwallu anghenion llunwyr polisi a rhanddeiliaid perthnasol eraill.<\/p>\n
Mae pob unigolyn yn y cwmni wedi’i hyfforddi’n dda ym mhob agwedd ar ddadansoddi economaidd, mae gan bob un ohonynt sgiliau ansoddol a\/neu feintiol ac ystadegol cryf ac mae’r rhan fwyaf wedi cyfrannu at brosiectau o fewn y maes polisi cyhoeddus.<\/p>\n
Rydym yn defnyddio caledwedd a meddalwedd econometrig ac ystadegol o’r radd flaenaf. Mae hyn yn ein galluogi i ddadansoddi setiau data mwy (a chyfuno setiau data mawr yn annibynnol), yn ogystal \u00e2 chynnal dadansoddiadau ystadegol ac econometrig mwy soffistigedig. Mae’r gwaith dadansoddol a wnawn yn aml yn gosod y meincnod ar gyfer dadansoddiadau dilynol yn y maes.<\/p>\n
Mae London Economics Ltd yn gwmni cyfyngedig preifat cofrestredig yn y DU \u2013 (GB)<\/b> 4083204.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"
Mae LE Wales yn ymgynghoriaeth sy’n darparu cyngor economaidd a pholisi i gleientiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae’n enw masnach London Economics Limited. Mae ein hymgynghorwyr yn cynnig ystod gynhwysfawr o sgiliau, gan gwmpasu pob agwedd ar ddadansoddi economaidd ac ariannol a datblygu polisi. Meysydd rydym yn gweithio ynddynt Rydym yn darparu gwasanaethau […]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"tags":[],"yoast_head":"\n