Datblygu Polisi

Mae gennym allu cadarn ym maes datblygu polisi cyhoeddus, gyda phrofiad wrth gefn gan ein staff a oedd yn arfer bod yn weision sifil uwch, a’n gwybodaeth arbenigol o ran dulliau modelu ac arfarnu.  Mae gennym wybodaeth arbenigol o ran:

• Dadansoddi a llunio polisïau a rheoliadau
• Y rhagarfarniad o bolisïau a phrosiectau
• Asesiadau o effaith reoleiddiol

Mae ein dull o ymdrin ag arfarnu wedi ei lunio’n arbennig ar gyfer anghenion penodol cleientiaid ac mae’n gyson bob amser â phrif ddogfennau cyfarwyddyd fel Llyfr Gwyrdd y Trysorlys.