Rhestrir yma gyhoeddiadau sy’n uniongyrchol berthnasol i gleientiaid a rhanddeiliaid yng Nghymru ac a gyhoeddwyd dan frandiau LE Wales, London Economics, neu LE Europe.
Ym mis Ebrill 2022, comisiynwyd LE Wales gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gynnal ymchwil ar gost darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) yng Nghymru. Nod yr ymchwil oedd pennu a oes costau ychwanegol yn gysylltiedig â chyflwyno darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg mewn sefydliadau a ariennir gan CCAUC yng Nghymru […]
Comisiynwyd London Economics i asesu effaith economaidd a chymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn y Deyrnas Unedig , gan ganolbwyntio ar flwyddyn academaidd 2020-21. Amcangyfrifwyd bod cyfanswm yr effaith economaidd ar economi’r DU sy’n gysylltiedig â gweithgareddau Prifysgol Caerdydd yn 2020-21 tua £3.678 biliwn . O’i gymharu â chyfanswm costau gweithredu Prifysgol Caerdydd o tua £573 miliwn […]
Mewn ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2021, darparodd LE Wales amcangyfrifon rhagarweiniol o’r refeniw posibl o gymhwyso treth dwristiaeth yng Nghymru. Fe wnaethom ddefnyddio data cyhoeddus ar dwristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2019 i amcangyfrif y refeniw posibl o ystod o opsiynau treth dwristiaeth, fel petaent wedi’u cymhwyso ar lefel […]
Ymchwiliodd yr astudiaeth hon i rôl ffactorau cyd-destunol wrth egluro cyflawniad dilynol ar lefel ôl-16 yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn gan ddefnyddio data cyfatebol o amrywiol gasgliadau data addysgol Cymreig a chysylltu gwybodaeth am addysg gyffredinol, dysgu galwedigaethol ac astudiaeth Bagloriaeth Cymru â gwybodaeth o ddata ysgolion uwchradd Blwyddyn 11. Dengys y canlyniadau fod absenoldeb ym […]
Comisiynodd Llywodraeth Cymru LE Wales i asesu costau a manteision cyflwyno Cod Ymarfer Statudol ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol (“busnes fel arfer”) a gyda chyflwyno deddfwriaeth sylfaenol. Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhagamcanion o wariant cyfredol net gan awdurdodau lleol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2018/19 i 2022/23. Mae’r rhagamcanion yn cwmpasu gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran (plant, oedolion o oedran gweithio a phobl hŷn) ac yn ystyried gwariant net (hy heb gynnwys incwm […]
Comisiynodd Llywodraeth Cymru LE Wales i asesu effeithiau posibl nifer o opsiynau polisi ar gyfer defnyddio cyllid ychwanegol a godir o ardoll bosibl neu ddewis arall. Mae’r opsiynau arfaethedig a aseswyd gan LE Wales yn cynnwys tri opsiwn ar gyfer gwrthbwyso’r taliadau am wasanaethau gofal cymdeithasol preswyl ac amhreswyl i oedolion sy’n cael eu talu […]
Mae hwn yn bapur briffio un dudalen sy’n crynhoi’r data wythnosol diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar Covid-19 a marwolaethau eraill trigolion cartrefi gofal Cymru.
International Long-term Care Policy Network (ILPN)
Cyhoeddwyd:
Mehefin, 2020
Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddogfennu effaith COVID-19 ar dderbynwyr gofal hirdymor yng Nghymru. Mae’r ddogfen ar gael trwy dudalen COVID-19 y Rhwydwaith Polisi Gofal Hirdymor Rhyngwladol yma , a sefydlwyd ym mis Mawrth 2020 fel casgliad cyflym o adnoddau a […]
Mae hwn yn bapur briffio un dudalen sy’n crynhoi’r data wythnosol diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar Covid-19 a marwolaethau eraill trigolion cartrefi gofal Cymru.