Mae LE Wales yn ymgynghoriaeth sy’n darparu cyngor economaidd a pholisi i gleientiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae’n enw masnach London Economics Limited. Mae ein hymgynghorwyr yn cynnig ystod gynhwysfawr o sgiliau, gan gwmpasu pob agwedd ar ddadansoddi economaidd ac ariannol a datblygu polisi.
Meysydd rydym yn gweithio ynddynt
Rydym yn darparu gwasanaethau yn y meysydd canlynol:
- dylunio a dadansoddi polisi
- adolygiadau tystiolaeth
- asesiadau effaith rheoleiddiol
- dadansoddiad cost a budd
- dylunio arolwg
- casglu a dadansoddi data ansoddol a meintiol cynradd
- cyfuno data a pharu data
- dadansoddiad eilaidd o setiau data ar raddfa fawr a chymhleth
- dadansoddiad cost a budd
- dadansoddiad economaidd ac ystadegol soffistigedig
- dadansoddiad ansoddol
- rheoli prosiect ymchwil gymhleth
- prosiectau sy’n cwmpasu mwy nag un wlad, a
- briffio gweinidogol ac uwch swyddogion gweithredol
Ein gallu
Mae ein tîm yn cynnwys economegwyr medrus, sy’n elwa o gefndiroedd deallusol trwyadl. Mae gan bob un o’n huwch ymgynghorwyr economaidd raddau ôl-raddedig mewn economeg o brifysgolion blaenllaw, ac mae ganddynt gyfoeth o brofiad academaidd ac ymarferol. Mae LE Wales yn gallu cyfuno trylwyredd academaidd a rheolaeth contract arbenigol i roi cymorth priodol i’n cleientiaid i ddiwallu anghenion llunwyr polisi a rhanddeiliaid perthnasol eraill.
Mae pob unigolyn yn y cwmni wedi’i hyfforddi’n dda ym mhob agwedd ar ddadansoddi economaidd, mae gan bob un ohonynt sgiliau ansoddol a/neu feintiol ac ystadegol cryf ac mae’r rhan fwyaf wedi cyfrannu at brosiectau o fewn y maes polisi cyhoeddus.
Rydym yn defnyddio caledwedd a meddalwedd econometrig ac ystadegol o’r radd flaenaf. Mae hyn yn ein galluogi i ddadansoddi setiau data mwy (a chyfuno setiau data mawr yn annibynnol), yn ogystal â chynnal dadansoddiadau ystadegol ac econometrig mwy soffistigedig. Mae’r gwaith dadansoddol a wnawn yn aml yn gosod y meincnod ar gyfer dadansoddiadau dilynol yn y maes.
Manylion Cwmni
Mae London Economics Ltd yn gwmni cyfyngedig preifat cofrestredig yn y DU – (GB) 4083204.