Rydym yn cynorthwyo cleientiaid wrth werthuso allbynnau a chanlyniadau prosiectau, polisïau a rhaglenni, eu hasesu yn erbyn eu hamcanion craidd ac mewn perthynas ag effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Lle bynnag y mae angen rydym yn gweithio gydag arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn cynnig gwerthusiad cadarnha chynhwysol i gleientiaid.
Mae ein dull o ymdrin ag arfarnu a gwerthuso wedi ei lunio’n arbennig ar gyfer anghenion penodol cleientiaid ac mae’n gyson bob amser â phrif ddogfennau cyfarwyddyd fel Llyfr Gwyrdd y Trysorlys.