Tîm

Profiad Academaidd ac Ymarferol

Mae ein tîm yn cynnwys economegwyr ac ymgynghorwyr polisi blaenllaw o Gymru ac Ewrop.  Mae gan bob un o’n staff uwch raddau ôl-raddedig mewn economeg ac mae ganddynt doreth o brofiad academaidd ac ymarferol.

Mae’r staff yn aelodau o nifer o wahanol sefydliadau proffesiynol ac eraill yn cynnwys Cymdeithas Werthuso’r DUCymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol,Sefydliad Materion CymreigCymdeithas Economaidd Frenhinol a Chymdeithas yr Economegwyr Busnes.

Ymwybyddiaeth Polisi

Mae llawer o’n hymgynghorwyr uwch wedi gweithio o’r blaen yn adrannau’r Llywodraeth (yn y DU, Iwerddon a Chanada) ac felly maent yn deall yn fanwl y broses o ddatblygu polisi ac yn dringar ynghylch ffactorau gwleidyddol.

Yn ogystal, mae nifer o aelodau’r staff wedi eu trosglwyddo am gyfnodau gyda sefydliadau eraill yn cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, Comisiwn Cystadleuaeth y DU a Masnach & Buddsoddiad y DU.

Sgiliau Ymchwil

Rydym yn gallu defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dadansoddi ansoddol a meintiol i gynorthwyo gyda’n gwaith, yn cynnwys:

  • Dadansoddi cost a budd
  • Dadansoddi meini prawf lluosog
  • Efelychu polisi
  • Adeiladu senario
  • Dadansoddi ystadegol
  • Modelu mathemategol ac ariannol

Mae gennym brofiad hefyd o ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau casglu data meintiol ac ansoddol, yn cynnwys:

  • Adolygiadau trylwyr o lenyddiaeth a thystiolaeth
  • Asesiadau chwim o dystiolaeth
  • Holiaduron arolwg
  • Cyfweliadau
  • Gweithdai
  • Grwpiau ffocws

Rydym yn gyfarwydd iawn â’r prif ffynonellau ystadegol swyddogol yng Nghymru, y DU ac Ewrop ac yn gweithio’n aml gyda chwmnïau ymchwil farchnad arbenigol.

Ieithoedd

Mae gennym sgiliau ieithyddol helaeth wrth law yn ein tîm, sy’n gallu bod yn arbennig o fuddiol wrth adolygu tystiolaeth a phrofiad gwledydd eraill.  Mae’r sgiliau ieithyddol sydd ar gael yn y tîm yn cynnwys Cymraeg, Saesneg, Gwyddeleg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Daneg, Hwngareg a Rwmaneg.