Amcangyfrifon rhagarweiniol o refeniw posibl ‘treth twristiaeth’ yng Nghymru

Sector: Public Policy
Cleient: Llywodraeth Cymru
Cyhoeddwyd: Medi, 2022
Math o ddogfen:  
Wedi'i dagio:

Mewn ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2021, darparodd LE Wales amcangyfrifon rhagarweiniol o’r refeniw posibl o gymhwyso treth dwristiaeth yng Nghymru. Fe wnaethom ddefnyddio data cyhoeddus ar dwristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2019 i amcangyfrif y refeniw posibl o ystod o opsiynau treth dwristiaeth, fel petaent wedi’u cymhwyso ar lefel Cymru gyfan yn 2019. Mae’r amcangyfrifon refeniw treth rhagarweiniol o gymhwyso treth dwristiaeth sefydlog ar gyfer Cymru ar lefel genedlaethol yn amrywio o £14 miliwn i £113 miliwn yn dibynnu ar y math o bolisi treth a lefel y dreth; ac mae cymhwyso treth amrywiol ar gyfer Cymru yn rhoi amcangyfrifon refeniw treth o rhwng £12 miliwn a £50 miliwn, yn dibynnu ar y polisi treth a lefel y dreth. Roedd ein dadansoddiad yn rhagdybio dim ymateb ymddygiadol, hynny yw nad yw cyflwyno treth yn effeithio ar nifer y nosweithiau ymwelwyr, gwariant ar lety ac ati.