Sector: | Social care |
---|---|
Cleient: | Llywodraeth Cymru |
Cyhoeddwyd: | Mawrth, 2021 |
Math o ddogfen: | |
Wedi'i dagio: |
Comisiynodd Llywodraeth Cymru LE Wales i asesu effeithiau posibl nifer o opsiynau polisi ar gyfer defnyddio cyllid ychwanegol a godir o ardoll bosibl neu ddewis arall. Mae’r opsiynau arfaethedig a aseswyd gan LE Wales yn cynnwys tri opsiwn ar gyfer gwrthbwyso’r taliadau am wasanaethau gofal cymdeithasol preswyl ac amhreswyl i oedolion sy’n cael eu talu gan dderbynwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol (yr ‘opsiynau tâl defnyddiwr’) a phedwar opsiwn sy’n ymwneud â buddsoddi yn y gweithlu gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru (‘opsiynau’r gweithlu’). Yn benodol, ar gyfer yr ‘opsiynau tâl defnyddiwr’, asesodd LE Wales yr opsiynau canlynol:
- Opsiwn 1: Gofal personol wedi’i ariannu’n llawn;
- Opsiwn 2: Gofal dibreswyl a ariennir yn llawn;
- Opsiwn 3: Cyfraniad wythnosol sefydlog tuag at gostau gofal preswyl i’r rhai sy’n ariannu eu hunain.
Ar gyfer y dadansoddiad o’r gweithlu yr opsiynau a ystyriwyd oedd
- Opsiwn 4a: Codi cyflogau gweithwyr gofal i’r cyflog byw go iawn;
- Opsiwn 4b: Codi cyflogau gweithwyr gofal i gyfraddau cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG.
- Opsiwn 4c: Codi cyflogau gweithwyr gofal i gyfraddau cyflog Awdurdodau Lleol.
- Opsiwn 4d: Codi cyflogau gweithwyr gofal i gyfraddau cyflog a thelerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid y GIG