Pwysau gweithredol a chost tymor byr i ganolig sy’n effeithio ar ofal cymdeithasol yng Nghymru

Sector: Social care
Cleient: Llywodraeth Cymru
Cyhoeddwyd: Mawrth, 2021
Math o ddogfen:  
Wedi'i dagio:

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhagamcanion o wariant cyfredol net gan awdurdodau lleol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2018/19 i 2022/23. Mae’r rhagamcanion yn cwmpasu gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran (plant, oedolion o oedran gweithio a phobl hŷn) ac yn ystyried gwariant net (hy heb gynnwys incwm gan gleientiaid a ffynonellau eraill) ar gyfer nifer o wahanol senarios gwariant. Mae’r modelu a’r rhagamcanion yn seiliedig ar ddata sydd ar gael ar 31 Awst 2019.