Rhestrir yma gyhoeddiadau sy’n uniongyrchol berthnasol i gleientiaid a rhanddeiliaid yng Nghymru ac a gyhoeddwyd dan frandiau LE Wales, London Economics, neu LE Europe.
International Long-term Care Policy Network (ILPN)
Cyhoeddwyd:
Mehefin, 2020
Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddogfennu effaith COVID-19 ar dderbynwyr gofal hirdymor yng Nghymru. Mae’r ddogfen ar gael trwy dudalen COVID-19 y Rhwydwaith Polisi Gofal Hirdymor Rhyngwladol yma , a sefydlwyd ym mis Mawrth 2020 fel casgliad cyflym o adnoddau a […]
Comisiynodd Cymwysterau Cymru yr adroddiad hwn gan LE Wales i roi darlun o sut mae’r farchnad ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn esblygu. Bydd Cymwysterau Cymru yn defnyddio canfyddiadau’r astudiaeth hon i helpu i ddatblygu ei ddull o reoleiddio’r system gymwysterau. Fel prif ddarparwr cymwysterau cyffredinol yng Nghymru, mae’r adroddiad hwn yn […]
O ystyried y ddadl wleidyddol barhaus ynghylch cynnwys myfyrwyr rhyngwladol yn nhargedau mudo’r DU, a’r nifer cyfyngedig o ddadansoddiadau o’u heffaith economaidd net hyd yma, comisiynwyd London Economics gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) a Kaplan International Pathways i gynnal dadansoddiad manwl o’r manteision a’r costau i economi’r Deyrnas Unedig sy’n gysylltiedig â myfyrwyr […]
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno diwygiadau i’r trefniadau ar gyfer talu am ofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel rhan o’r broses datblygu polisi, comisiynodd Llywodraeth Cymru LE Wales i gynnal astudiaeth ymchwil annibynnol ar ddyfodol talu am ofal yng Nghymru. Cynhyrchodd y gwaith ddeunydd ar gyfer Llywodraeth Cymru gan roi mewnbwn defnyddiol iddynt i’w […]
Cynhaliwyd yr ymchwil hwn ar ran y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru (‘Comisiwn Holtham’). Gan ddefnyddio’r mecanweithiau dyrannu cyllid ar gyfer iechyd, llywodraeth leol ac ysgolion yn Lloegr, mae’r ymchwil yn dangos ei bod yn bosibl ailadrodd y canlyniadau ariannu hyn yn fanwl gywir drwy ddefnyddio fformiwlâu llawer symlach sy’n seiliedig ar […]
Mae’r astudiaeth hon yn adolygu’r llenyddiaeth ryngwladol ar effeithiau economaidd buddsoddiadau ar raddfa fawr mewn seilwaith ffisegol a deallusol. Archwilir tystiolaeth ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth, TGCh, addysg ac ynni adnewyddadwy.
Yn 2005, comisiynwyd London Economics gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gynnal astudiaeth i bennu’n fanwl y costau ychwanegol a all fod yn gysylltiedig â chyflwyno cyrsiau a modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynwyd ein hadroddiad terfynol i seminar sector ym mis Medi 2006 ac wedi hynny gwnaeth CCAUC newidiadau i’r trefniadau ar […]