Sector: | Economics of Education | Education |
---|---|
Cleient: | Llywodraeth Cymru |
Cyhoeddwyd: | Mawrth, 2022 |
Math o ddogfen: | |
Wedi'i dagio: |
Ymchwiliodd yr astudiaeth hon i rôl ffactorau cyd-destunol wrth egluro cyflawniad dilynol ar lefel ôl-16 yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn gan ddefnyddio data cyfatebol o amrywiol gasgliadau data addysgol Cymreig a chysylltu gwybodaeth am addysg gyffredinol, dysgu galwedigaethol ac astudiaeth Bagloriaeth Cymru â gwybodaeth o ddata ysgolion uwchradd Blwyddyn 11. Dengys y canlyniadau fod absenoldeb ym Mlwyddyn 11 (cyfran o absenoldebau ac absenoldebau anawdurdodedig) a chyrhaeddiad blaenorol yng Nghyfnod Allweddol 4 yn yrwyr cryf iawn ar gyfer cyflawniad dilynol ar lefel ôl-16. Gwelwyd hyn ar draws amrywiaeth o fesurau cyflawniad a ystyriwyd ar gyfer addysg gyffredinol a rhaglenni galwedigaethol (ar gyfer gwahanol lefelau rhaglenni galwedigaethol). Mae nodweddion eraill fel cymhwyster i gael Prydau Ysgol am Ddim, amddifadedd ardal leol, rhyw ac oedran ar y dechrau hefyd i’w gweld yn chwarae rhan wrth egluro cyflawniad ôl-16.